Ymunwch a'r Tim
Ymuno â’r Tîm
Bob blwyddyn byddwn yn derbyn nifer fach o wirfoddolwyr newydd i gyflawni rolau’r aelodau hynny sydd wedi gadael oherwydd ymrwymiadau’n gysylltiedig â gwaith, y teulu neu hyfforddiant. Ein nod yw sicrhau bod gennym dîm o tua 45 o wirfoddolwyr ar waith.
Mae ymuno â Thîm Achub Mynydd Aberhonddu yn ymrwymiad sylweddol. Mae’r heddlu, y cyhoedd a’r bobl yr ydym yn eu hachub yn dibynnu arnom ni i ymateb gyda niferoedd digonol a phrofiad penodol - waeth beth fo’r amser, y tir neu’r tywydd.
Mae darpar aelodau o’r tîm bryniau yn dechrau drwy gyflawni cyn asesiad ffurfiol a ddilynir gan oddeutu 12 mis o hyfforddiant dan arolygiaeth cyn cyflawni asesiad terfynol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedyn yn gweithredu fel aelodau ar brawf am flwyddyn arall cyn dod yn aelodau gweithredol llawn o’r tîm.
Pan fyddwn yn recriwtio byddwn yn cyhoeddi hynny ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, felly cadwch lygad barcud amdanynt os hoffech ymuno â ni.
Rolau Cymorth
Rydym hefyd yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu gyda cherbydau, rheoli ein Pencadlys a chodi arian. Mae’r rolau hyn yn hanfodol o ran rhedeg y tîm a sicrhau bod ein gwasanaeth am ddim i’r sawl sydd mewn angen. Os oes gennych chi’r brwdfrydedd a’r amser i helpu - boed hynny ar y bryn, y tu ôl i’r llenni neu mewn digwyddiadau cymunedol - hoffem glywed oddi wrthych.
Llawrlwythwch: Gwybodaeth Cyn Asesu (PDF)
Cysylltwch â ni: fundraising@breconmrt.co.uk