Amdanon ni
Tîm Achub Mynydd Aberhonddu
Mae Tîm Achub Mynydd Aberhonddu yn wasanaeth brys sydd wedi'i staffio'n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac wedi'i ariannu gan roddion. Yn gweithio o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y De, i'r Trallwng yn y Gogledd Ddwyrain a Machynlleth yn y Gogledd Orllewin. Mae galw arnom yn aml hefyd i gynorthwyo timau Achub Mynydd eraill sy'n gweithredu yn Ne a Gorllewin Cymru.
Nid yw ein gwaith wedi'i gyfyngu i achub dringwyr a cherddwyr bryniau yn unig, mae ein sgiliau hefyd yn cael eu defnyddio gan yr heddlu i chwilio am bobl bregus neu sydd ar goll yn y gymuned.
Rydym wedi llunio'r wefan hon i'ch helpu chi i ddeall sut mae Tîm Achub Mynydd Aberhonddu yn gweithredu, yn hyfforddi ac yn rhyngweithio ag asiantaethau eraill, a sut rydyn ni'n cael ein defnyddio gan yr heddlu i gynnal chwiliadau ac achubiadau technegol.