Cefnogwch ni

Cyfrannwch heddiw!

NWYDDAU ACHUB Mynydd Aberhonddu

Mae eich cefnogaeth yn hanfodol


Drwy gyfrannu at waith Tîm Achub Mynydd Aberhonddu, rydych yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau achub bywyd i bobl mewn angen.  Mae pob cyfraniad yn mynd yn syth tuag at sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn barod i ymateb i unrhyw argyfwng.


Pam fod angen eich help arnom


Diolch i’n tîm o wirfoddolwyr ymroddedig, rydyn ni’n gallu darparu ein gwasanaethau am ddim i unrhyw unigolyn sydd mewn angen.  Fodd bynnag, mae costau rhedeg y gwasanaeth yn ddrud.  I weithredu’n ddiogel, mae’n rhaid i ni gynnal ein cerbydau, ein hyfforddiant, ein hoffer a’n pencadlys. Mae hyn yn gofyn am gyllid parhaus. Mae’n costio tua  £65,000 bob blwyddyn i gynnal y tîm.


Digwyddiadau Blynyddol


Rydym yn trefnu amrywiol ddigwyddiadau bob blwyddyn i godi arian hanfodol ar gyfer y tîm. Mae’r rhain yn cynnwys Her Bwrw’r Bannau a Her y Ddraig Ddu. I gael mwy o wybodaeth am ein digwyddiadau nesaf, ewch i’n tudalen Digwyddiadau neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol. 


Ffyrdd eraill o’n cefnogi


Clwb 200

Mae’r Clwb 200 yn ffordd arall y gallwch gyfrannu tuag at ein gwaith codi arian.  Mae aelodau Clwb 200 yn gwneud cyfraniad misol tuag at wobr ariannol, gyda chyfle i ennill bob chwarter. Mae’n costio £12 y flwyddyn i ymaelodi ac mae’n rhoi cyfle i chi ennill un o dair gwobr ariannol chwarterol.  I ddysgu mwy am ymaelodi, cysylltwch âfundraising@breconmrt.co.uk


Cyfrannu er cof am rywun annwyl 


Dim ond y chi fydd yn gwybod pam y byddai gwneud cyfraniad i Dîm Achub Mynydd Aberhonddu yn ffordd addas i goffau rhywun annwyl. Efallai bod yr unigolyn yn cefnogi’r tîm neu’n mwynhau crwydro Bannau Brycheiniog. 


Fel elusen a gwasanaeth achub mewn argyfwng a redir yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, rydyn ni’n dibynnu at eich haelioni chi i barhau i â’n gwaith o achub bywydau.  Defnyddir pob ceiniog o’r cyfraniadau coffaol yn y meysydd hynny lle mae’r galw mwyaf, o ddarparu offer achub i addysgu sgiliau diogelwch hanfodol i bobl ifanc.


Mae llawer o wahanol ffyrdd o wneud cyfraniad er cof am rywun annwyl:


     Cyfraniad unigol, unwaith yn unig: drwy greu tudalen deyrnged ar muchloved.com. 

     Yn hytrach na blodau; gallwch awgrymu gwneud     cyfraniadau ariannol yn yr hysbysiadau angladdol

     Amlenni cyfraniadau angladdol; gallwn ni ddarparu amlenni pwrpasol ar gyfer casgliad i’w gynnal cyn, yn ystod neu ar ôl y gwasanaeth.

     Cysylltwch â fundraising@breconmrt.co.uk


Gyda’ch gilydd, gallwch chi a’ch anwyliaid wneud gwahaniaeth ac achub bywydau.


Gadael rhodd yn eich ewyllys


Ar ôl i chi ofalu am eich teulu a’ch ffrindiau, byddem yn ddiolchgar petaech yn ystyried cynnwys rhodd yn eich ewyllys i Dîm Achub Mynydd Aberhonddu.


Ni fydd gadael rhodd yn costio dim i chi yn ystod eich oes.  Gallai hyd yn oed leihau’r dreth etifeddiaeth mewn perthynas â’ch ystâd, oherwydd ni chodir treth ar roddion a wneir i elusennau.  A bydd eich rhodd yn cael effaith anferthol; gan ein helpu ni i achub pobl am flynyddoedd i ddod. 

Llawrlwytho canllaw