Sut rydym yn gweithio
Yn Barod i Ymateb Bob Amser
Mae hyfforddiant wrth wraidd popeth a wnawn. Mae pob aelod o’r tîm gweithredol yn dilyn hyfforddiant yn rheolaidd â’r nod o gynnal eu sgiliau, dysgu technegau newydd a sicrhau eu medrusrwydd.
Mae pob aelod yn cadw llyfr log personol i gofnodi eu sgiliau craidd a chymwysterau arbenigol drwy system hyfforddi TIER (sef Training, Incidents, Equipment and Reporting yn Saesneg). Mae’r gronfa ddata genedlaethol hon sydd wedi’i dylunio ar gyfer y gwasanaethau brys yn ein helpu i gadw golwg ar gymwyseddau, cynllunio sesiynau a chofnodi’r holl weithgareddau datblygu proffesiynol parhaus (DPP) a gyflawnir. Yn ogystal, bydd pob aelod o’r tîm yn cwblhau prawf medrusrwydd a ffitrwydd blynyddol i gadarnhau eu bod yn addas i gyflawni gweithgareddau achub gweithredol.
Safonau Cenedlaethol, Ffocws Lleol
Mae ein rhaglen hyfforddiant yn dilyn canllawiau sefydliad Mountain Rescue England & Wales (MREW) sydd wedi’i haddasu i gyd-fynd â heriau penodol ein hamgylchedd lleol.
Mae Bannau Brycheiniog a’r ardaloedd cyfagos yn cynnig ystod eang o diroedd - o fynyddoedd geirwon ac afonydd i goedwigoedd a gwastadeddau gwledig. Yn fwy a mwy, rydyn ni’n cael ein galw nid yn unig i ardaloedd mynyddig ond i chwilio mewn amgylcheddau trefol, achub pobl o ddŵr, chwilio am unigolion sydd ar goll a chymryd rhan mewn gweithrediadau mewn cysylltiad â llifogydd. Mae pob aelod sy’n gweithio ar y bryniau wedi’i hyfforddi i gyflawni pob math o weithgareddau chwilio ac achub, tra bod rhai yn mynd ymlaen i ddatblygu sgiliau uwch mewn rolau arbenigol.
Rolau a Modiwlau Arbenigol
• Rydyn ni’n sicrhau bod ein galluoedd gweithredol yn cwmpasu mwy na 180 o fodiwlau hyfforddi arbenigol, gyda phob un ohonynt yn canolbwyntio ar sgil neu rôl benodol o fewn y tîm.
• Mae’r rhain yn cynnwys:
• Arweinydd Grŵp
• Rheolwr Chwiliadau
• Aelod Cymorth Gweithredol
• Technegydd Achub o Ddŵr Modiwl 2 neu 3 DEFRA
• Rheolwr Digwyddiadau Dŵr Modiwl 5 DEFRA
• Aelod Tîm Chwiliadau sy’n cynnwys Canŵ neu Gaiac
• Technegydd Meddygol Achubiadau Anghysbell
• Gyrrwr Cerbyd oddi ar y Ffordd
• Gweithredwr Drôn
• Gyrrwr Ymatebiadau Golau Glas
Mae system TIER yn ein helpu i fonitro’r modiwlau hyn a threfnu cyrsiau gloywi pan fo angen i aelodau ddiweddaru eu cymwysterau neu ail-sefyll profion. Mae hyn yn sicrhau bod pob gwirfoddolwr yn meddu ar y sgiliau diweddaraf i’w alluogi i gyflawni ei rôl.
Sesiynau Hyfforddi
Cynhelir sesiynau hyfforddi ar nosweithiau Mercher ac ar y dydd Sul cyntaf bob mis. Mae’r sesiynau’n cyfuno sesiynau dysgu mewn ystafell ddosbarth, gwaith maes ymarferol ac ymarferion yn seiliedig ar senarios er mwyn creu ymdeimlad o waith achub go iawn.
Yn ogystal â’r hyfforddiant gweithredol, disgwylir i aelodau fynychu cyrsiau arbenigol a digwyddiadau codi arian drwy gydol y flwyddyn - o seminarau technegol a diweddariadau meddygol i weithdai rheoli chwiliadau.