Strwythur tîm
Mae gan y tîm ddwy system reoli sy’n gweithredu’n annibynnol o’i gilydd, un ar gyfer gweithrediadau ac un ar gyfer Strwythur y Tîm ac Arweinyddiaeth.
Mae’r tîm yn gweithredu dan ddau strwythur sy’n cyd-fynd â’i gilydd - un ar gyfer gweithrediadau ac un ar gyfer gweinyddiaeth.
Mae arweinyddiaeth weithrediadol, gan gynnwys rheoli
digwyddiadau a chydlynu hyfforddiant yn dilyn hierarchaeth draddodiadol dan arweiniad arweinydd y tîm a’r dirprwy arweinwyr tîm, a etholir bob blwyddyn. Yn ystod galwadau, gall rheolwr chwiliadau hyfforddedig reoli digwyddiadau penodol.
Ar y bryniau, bydd pob grŵp dan ofal arweinydd a bydd pob grŵp yn cynnwys swyddog meddygol enwebedig. Ar safle lle ceir unigolyn/ion anafedig, bydd trefnydd adnoddau yn rheoli offer a swyddogion er mwyn sicrhau effeithlonrwydd. Mae’r pwyllgor rheoli gweinyddol yn cadw golwg ar lywodraethiant, gweithgareddau codi arian a logisteg, âchefnogaeth swyddogion arbenigol sy’n gyfrifol am offer, cerbydau, y pencadlys a chydlyniant meddygol.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y tîm neu yn ein gwaith beth am ymweld â ni. Cysylltwch â’r Ysgrifennydd neu Reolwr y Tîm i drefnu ymweliad.