Ein Digwyddiadau

Derbyniwch yr her a dewch i gefnogi Tîm Achub Mynydd Aberhonddu!


Bob blwyddyn byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad heriol ar ffurf teithiau cerdded ym mhrydferthwch Bannau Brycheiniog.


Caiff pob ceiniog a godir yn sgil digwyddiad Her y Ddraig Ddu a Bwrw’r Bannau ei defnyddio i ariannu Tîm Achub Mynydd Aberhonddu.


Drwy gymryd rhan byddwch nid yn unig yn cyflawni her bersonol ond hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr drwy helpu i gadw ein gwasanaeth achub ar ei draed.


Pam ein bod ni eich angen chi!


Mae’n costio £65,000 y flwyddyn i redeg ein gwasanaeth sy’n achub pobl mewn argyfwng 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac nid yw’n derbyn unrhyw gyllid allanol - felly mae eich cefnogaeth yn hanfodol gan fod pob punt yn dod oddi wrth gefnogwyr hael fel chi.


Byddwn ni’n gofalu amdanoch chi tra byddwch chi’n ein helpu ni.


Mae Her y Ddraig Ddu a Bwrw’r Bannau yn cael eu rhedeg gan ein Tîm Achub Mynydd proffesiynol a byddwn ni wrth law i sicrhau eich diogelwch, pob cam o’r daith. 



Her y Ddraig Ddu

Dydd Sadwrn 18 Ebrill 2026                     


Her y Ddraig Ddu


Dewis o Dri Llwybr -                                         

28 milltir (44km) Llwybr Gwytnwch,                   

22 milltir (56km) Llwybr Safonol a               

16 milltir (27km) Llwybr y Crib                 

Yn dechrau ac yn gorffen yn Llan-gors         


Rhagor o wybodaeth   

Dilynwch y ddolen isod     

Her y Ddraig Ddu 2026

   Bwrw’r Bannau


Medi 2026




                     Rhagor o wybodaeth                           

Dilynwch y ddolen isod        

Bwrw'r Bannau 2026

Tri llwybr:

10 milltir

15 milltir a

22 milltir 

  Yn dechrau ac yn gorffen yn Nhal-y-bont ar Wysg



Rydym yn ddiolchgar i’n noddwyr hael am gefnogi’n digwyddiadau